Mae swm syfrdanol o £100 miliwn eisoes wedi cael ei fuddsoddi mewn ysgolion a’r seilwaith addysg ledled y fwrdeistref sirol fel rhan o’n rhaglen Llunio Lleoedd uchelgeisiol.
Bydd y buddsoddiad parhaus wedi’i gynllunio ym maes addysg yn sicrhau bod ein disgyblion yn gwella, yn cyflawni ac yn cael eu hysbrydoli – gan greu dyfodol llewyrchus i’n trigolion.
Mae hanfodion rhaglen Llunio Lleoedd yn canolbwyntio ar fuddsoddiad lleol ystyrlon – sy’n ystyried anghenion y gymuned ac yn anelu at wneud gwahaniaeth go iawn. Mae’r we-dudalen bwrpasol hon yn cynnig trosolwg o’r buddsoddiad er mwyn rhannu’r cefndir â thrigolion a’u galluogi i ddeall yn well ble a phryd y cafodd yr arian ei wario, er mwyn ein helpu i nodi cyfleoedd buddsoddi yn y dyfodol.
Caerphilly in conversation - have your say