Dros y pedair blynedd diwethaf, mae Cyngor Caerffili wedi buddsoddi yn sylweddol mewn seilwaith er mwyn sicrhau y gall trigolion Caerffili fyw bywydau iachach mewn lleoedd iachach.
Drwy fuddsoddiad ystyriol o hyd at £500 miliwn hyd yma rydym wedi creu cyfleusterau newydd o’r radd flaenaf er mwyn galluogi trigolion i fyw bywydau mwy egnïol a chynaliadwy mewn ardaloedd ledled y Fwrdeistref Sirol.
Mae hanfodion rhaglen Llunio Lleoedd yn canolbwyntio ar fuddsoddiad lleol ystyrlon – sy’n ystyried anghenion y gymuned ac yn anelu at wneud gwahaniaeth go iawn. Mae’r wefan bwrpasol hon yn cynnig trosolwg o’r buddsoddiad er mwyn rhannu’r cefndir â thrigolion a’u galluogi i ddeall yn well ble a phryd y cafodd yr arian ei wario, er mwyn ein helpu i nodi cyfleoedd buddsoddi yn y dyfodol.
Caerphilly in conversation - have your say