Dros y pedair blynedd diwethaf, mae Cyngor Caerffili wedi buddsoddi yn sylweddol mewn seilwaith er mwyn sicrhau bod Caerffili yn Lle Gwych i Wneud Busnes.
Mae’r rhaglen Llunio Lleoedd wedi buddsoddi £500m, sy’n swm syfrdanol, mewn nifer o brosiectau hyd yn hyn, gan gynnwys cefnogi’r twf yn y sector busnes a thwristiaeth yn y fwrdeistref sirol fel rhan o lasbrint trawsnewid uchelgeisiol.
Mae hanfodion rhaglen Llunio Lleoedd yn canolbwyntio ar fuddsoddiad lleol ystyrlon – sy’n ystyried anghenion y gymuned ac yn anelu at wneud gwahaniaeth go iawn. Mae’r wefan bwrpasol hon yn cynnig trosolwg o’r buddsoddiad er mwyn rhannu’r cefndir â thrigolion a’u galluogi i ddeall yn well ble a phryd y cafodd yr arian ei wario, er mwyn ein helpu i nodi cyfleoedd buddsoddi yn y dyfodol.
Caerphilly in conversation - have your say