Yn gynharach eleni, dadorchuddiodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili lasbrint uchelgeisiol ar gyfer dyfodol yr ardal. Roedd hyn yn cynnwys fframwaith buddsoddi cyffrous gwerth cyfanswm o dros hanner miliwn o bunnoedd.
Yn gyfan gwbl, bydd y cynllun Llunio Lleoedd yn sicrhau buddsoddiad dros £500 miliwn ar draws pob rhan o’r Fwrdeistref Sirol. Mae Llunio Lleoedd wedi’i rannu’n dair rhan benodol: prosiectau sydd wedi’u cwblhau, prosiectau sydd ar y gweill ar hyn o bryd a phrosiectau sydd eisoes wedi’u dynodi ar gyfer y buddsoddiad yn y dyfodol.
Bydd gofyn i drigolion chwarae rhan hanfodol wrth helpu i lunio’r cynigion, trwy nodi darnau coll y jig-so i sicrhau bod y Cyngor yn targedu ei fuddsoddiad lle mae ei angen fwyaf. Bydd manylion ynghylch sut y gall y gymuned gymryd rhan yn cael eu cyhoeddi yn y dyfodol agos.