Mae Cyngor Caerffili wedi buddsoddi’n sylweddol dros y 4 blynedd diwethaf mewn trawsnewid llwybrau ym mhob rhan o’r sir, gwella mynediad i’r cyhoedd a thrafnidiaeth gyhoeddus a chyflwyno seilwaith i hyrwyddo teithio llesol mewn ymdrech i gysylltu pobl a lleoedd nawr ac yn y dyfodol.
Mae’r rhaglen Llunio Lleoedd wedi hoelio buddsoddiad syfrdanol gwerth £500m mewn ardaloedd ledled y sir ac mae’r seilwaith teithio wedi bod yn rhan allweddol yn hynny o beth, yn sgil cyflawni prosiectau graddfa fawr fel cylchfan Pwll-y-Pant; mannau gwefru cerbydau trydan cyhoeddus mewn lleoliadau allweddol a gwell llwybrau teithio llesol ar gyfer teithiau defnyddiol.
Mae hanfodion rhaglen Llunio Lleoedd yn canolbwyntio ar fuddsoddiad lleol ystyrlon – sy’n ystyried anghenion y gymuned ac yn anelu at wneud gwahaniaeth go iawn. Mae’r wefan bwrpasol hon yn cynnig trosolwg o’r buddsoddiad er mwyn rhannu’r cefndir â thrigolion a’u galluogi i ddeall yn well ble a phryd y cafodd yr arian ei wario, er mwyn ein helpu i nodi cyfleoedd buddsoddi yn y dyfodol.
Caerphilly in conversation - have your say