Education icon
Gwella, cyflawni, ysbrydoli
Housing icon
Eich cartrefi, eich dyfodol
Connecting icon
Cysylltu pobl, cysylltu mannau
Business icon
Lle gwych i wneud busnes
Health icon
Bywydau iach, lleoedd iach
Community icon
Creu cymunedau gofalgar

Shapio Lle Caerffili

Yn gynharach eleni, dadorchuddiodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili lasbrint uchelgeisiol ar gyfer dyfodol yr ardal. Roedd hyn yn cynnwys fframwaith buddsoddi cyffrous gwerth cyfanswm o dros hanner miliwn o bunnoedd.

Yn gyfan gwbl, bydd y cynllun Llunio Lleoedd yn sicrhau buddsoddiad dros £500 miliwn ar draws pob rhan o’r Fwrdeistref Sirol. Mae Llunio Lleoedd wedi’i rannu’n dair rhan benodol: prosiectau sydd wedi’u cwblhau, prosiectau sydd ar y gweill ar hyn o bryd a phrosiectau sydd eisoes wedi’u dynodi ar gyfer y buddsoddiad yn y dyfodol.

Bydd gofyn i drigolion chwarae rhan hanfodol wrth helpu i lunio’r cynigion, trwy nodi darnau coll y jig-so i sicrhau bod y Cyngor yn targedu ei fuddsoddiad lle mae ei angen fwyaf. Bydd manylion ynghylch sut y gall y gymuned gymryd rhan yn cael eu cyhoeddi yn y dyfodol agos.